Psalms 28

Gweddi am help

Salm Dafydd.

1O Arglwydd, arnat ti dw i'n galw!
Paid diystyru fi – ti ydy fy nghraig i.
Os gwnei di ddim ateb
bydda i'n siŵr o ddisgyn i'r bedd!
2Gwranda arna i'n galw –
dw i'n erfyn am drugaredd!
Dw i'n estyn fy nwylo
at dy deml sanctaidd.
3Paid llusgo fi i ffwrdd gyda'r rhai drwg,
y bobl hynny sy'n gwneud dim byd ond drwg.
Maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig
ond does dim byd ond malais yn y galon.
4Tala yn ôl iddyn nhw am wneud y fath beth!
Rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu!
Cosba nhw!
5Dŷn nhw ddim yn deall
y ffordd mae'r Arglwydd yn gweithio.
Bydd e'n eu bwrw nhw i lawr,
a fyddan nhw byth yn codi eto!
6Bendith ar yr Arglwydd!
Ydy, mae e wedi gwrando arna i yn erfyn am drugaredd!
7Mae'r Arglwydd yn rhoi nerth i mi;
mae e'n darian i'm hamddiffyn.
Dw i'n ei drystio fe'n llwyr.
Daeth i'm helpu, a dw i wrth fy modd!
Felly dw i'n mynd i ganu mawl iddo!
8Mae'r Arglwydd yn gwneud ei bobl yn gryf.
Mae e fel caer yn amddiffyn ac yn achub ei eneiniog, y brenin.
9Achub dy bobl!
Bendithia dy bobl sbesial!
Gofala amdanyn nhw fel bugail
a'u cario yn dy freichiau bob amser!
Copyright information for CYM